Y Gerddorfa

NEW Sinfonia OrchestraPwy ydyn ni

Sefydlwyd yn 2011: mae Cerddorfa North East Wales Sinfonia o Ogledd Cymru yn rhoi cyfle i gerddorion ifanc proffesiynol i berfformio. Mae rhan fwyaf o chwaraewyr arferol y gerddorfa yn dod o Ogledd Cymru a’r lleill o ardaloedd pellach i ffwrdd. Mae ein tim yn gallu ymffrostio yn y ffaith nid yn unig ein bod wedi astudio mewn rhai o brifysgolion cerdd gorau’r byd ond hefyd wedi perfformio mewn gwyliau rhyngwladol gyda cherddorfeydd enwog. Mae New Sinfonia wedi perfformio yng Ngwyl Cerdd Rhyngwladol Gogledd Cymru: yn cydweithredu gyda Karl Jenkins a Nicholas Cleobury yn 2012 a’r Proffesor Paul Mealor yn 2013. Rydym yn anelu i fod yn unig gerddorfa proffesiynol Gogledd Cymru. Oherwydd safon uchel a llwyddiant y gerddorfa mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cytuno i roi grant inni gyda chefnogaeth y Loteri Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru i lwyfannu cyngherddau canol-dydd am ddim yn Oriel Wrecsam a Galeri 3B am flwyddyn.

Ein Nod

Mae New Sinfonia yn gerddorfa o Ogledd Cymru sy’n cynnig gwaith i gerddorion ifanc proffesiynol.

Nod New Sinfonia ydy:

  • Cyrraedd cynulleidfaoedd o bob oed a chefndir drwy raglenni difyr a chyffrous.
  • Cymeryd cerddoriaeth offerynnol byw i wahanol gymunedau dros Ogledd Cymru.
  • Cael “cartref” yng Ngogledd Dwyrain Cymru.
  • Ysbrydoli y genhedlaeth nesa o gerddorion o Ogledd Cymru i ddatblygu eu talentau cerddorol.
  • Cefnogi a hybu celfyddyd cyfoesol, diwylliannol cymraeg.

Cyflwyno'r Tim